Rhif y ddeiseb: P-06-1343

Teitl y ddeiseb: Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd

Geiriad y ddeiseb: Credaf y dylai fod gan bob plentyn mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru hawl i gael drafnidiaeth gyhoeddus am ddim er mwyn iddynt allu teithio i’w hysgol uwchradd ddalgylch* yn ddiogel.

 

Rydym yn byw 2.4 milltir o ysgol uwchradd ein plant ond mae ein cyngor yn datgan mai dim ond i’r rhai sy’n byw 3 milltir (neu ymhellach) o’u hysgol uwchradd ddalgylch y mae trafnidiaeth am ddim ar gael. Byddai cerdded i'r ysgol yn cymryd rhwng 50 munud ac awr o'n tŷ ni ar hyd ffyrdd prysur a gordyrrog. Nid oes llwybr beicio diogel.

 

Fel teulu rydym yn gwario dros £80 y mis ar docynnau bws ar gyfer ein 2 blentyn. Mae’n arian na allwn ei fforddio mewn gwirionedd ond i rai rhieni mae canfod £40 y mis (y plentyn) yn amhosib ac felly mae eu plant yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd ffyrdd tywyll, prysur, peryglus a llygredig er mwyn cyrraedd yr ysgol. Mae hyn yn annheg ac yn gwahaniaethu yn erbyn y plant tlotaf mewn cymdeithas.

 

 

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad (Mawrth 2022) o ‘Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)’ ac ym mis Mehefin 2022 dywedodd Mark Drakeford y bydd 'rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr a fydd yn sicrhau bod ein holl randdeiliaid yn cael y cyfle i gyfrannu at yr adolygiad ehangach dilynol'.

 

*Mae ysgol uwchradd ddalgylch yn cyfeirio at leoliad addysg CA3/4 y plentyn/person ifanc gan gynnwys y Ysgolion cyfrwng Cymraeg, Ysgolion cyfrwng Saesneg, Ysgolion dwyieithog, Ysgolion Ffydd, Ysgolion Arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion, darpariaeth EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) ac ati.


1.        Cefndir

1.1.            Yr hawl ar hyn o bryd i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol

O dan ddarpariaethau’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n byw ymhellach na phellteroedd penodol o'u hysgol addas agosaf. Mae'r pellteroedd a elwir yn bellteroedd cerdded wedi'u nodi yn y Mesur. Y pellteroedd statudol yw dwy filltir i ddisgyblion ysgolion cynradd a thair milltir i ddisgyblion ysgolion uwchradd.

Mae’r hawl i gludiant ysgol am ddim a phellteroedd cerdded statudol yn tarddu o Ddeddf Addysg 1944 a oedd yn nodi pellteroedd cerdded fel dwy filltir ar gyfer disgyblion oedran ysgol gorfodol 8 oed ac iau, a thair milltir ar gyfer disgyblion hŷn. 

1.2.          Asesu anghenion dysgwyr

O dan ddarpariaethau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio dysgwyr sydd o dan 19 oed yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys y rhai y mae rheidrwydd cyfreithiol arnynt i ddarparu cludiant ar eu cyfer a'r rhai y maent yn dymuno darparu cludiant ar eu cyfer yn ôl eu disgresiwn eu hunain wrth asesu anghenion teithio. Mae hefyd yn ofynnol i awdurdod ystyried:

§    Anghenion unrhyw ddysgwyr anabl a dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu;

§    Anghenion penodol dysgwyr 'sy'n derbyn gofal' neu sydd wedi derbyn gofal yn ffurfiol gan awdurdod lleol;

§    Oedran y dysgwr;

§    Y math o lwybr y disgwylir i'r dysgwr ei ddilyn rhwng y cartref a lleoliad yr addysg neu'r hyfforddiant.

1.3.          Llwybrau sydd ar gael

Mae'r Mesur yn nodi y dylid mesur y pellter cerdded 'ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael'. Ystyrir bod ffordd "ar gael" os yw'n ddiogel (cyn belled ag y bo'n ymarferol resymol) i ddysgwr heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu gyda hebryngwr sy'n oedolyn pe byddai oed a lefelau dealltwriaeth y dysgwr yn galw am ddarparu hebryngwr.

Os nad yw ffordd 'ar gael' ac nad oes llwybr cerdded arall ar gael o fewn y pellter perthnasol, ni ellir disgwyl i'r dysgwr gerdded i'r ysgol addas agosaf, hyd yn oed os yw'r pellter rhwng y cartref a'r ysgol yn llai na'r pellter sy'n gymwys i oedran y dysgwr. Mewn achosion felly, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim i'r dysgwr i'r ysgol addas agosaf ac oddi yno.

1.4.          Darpariaethau yn ôl disgresiwn

Yn ogystal â darpariaeth statudol, mae gan awdurdodau lleol bwerau dewisol i ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ar gyfer dysgwyr eraill sy'n byw neu'n astudio yn ardal yr awdurdod. Fodd bynnag, os yw awdurdod lleol yn defnyddio ei bwerau disgresiwn, mae'n rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y polisi yn cael ei gymhwyso i bob dysgwr sy'n wynebu amgylchiadau tebyg yn ardal yr awdurdod hwnnw. Er nad yw'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnig cludiant am ddim, rhai enghreifftiau o adegau y gellir defnyddio'r ddarpariaeth cludiant yn ôl disgresiwn yw ar gyfer:

§    Plant dan bump oed;

§    Ysgolion cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn ysgolion addas agosaf;

§    Ysgolion ffydd nad ydynt yn ysgolion addas agosaf;

§    Dysgwyr ôl-16 sy'n parhau â'u hastudiaethau mewn addysg bellach neu hyfforddiant prif-ffrwd.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Ym mis Tachwedd 2019, ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i adolygu'r ddeddfwriaeth ar Deithio gan Ddysgwyr o ran dysgwyr ôl-16. Mewn Datganiad Ysgrifenedig Cabinet ar y cyd, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Addysg a Chysylltiadau Rhyngwladol; y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bod y trefniadau trafnidiaeth ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn gweithio’n dda ar y cyfan.

Yn ôl Datganiad gan y Cabinet ym mis Awst 2020, cafodd yr adolygiad ei ymestyn i gynnwys y grŵp oedran 4-16 oed a'r trothwy milltiroedd presennol ar gyfer trafnidiaeth am ddim. Roedd disgwyl i'r adolygiad ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth 2021, ond ni chyhoeddwyd yr adolygiad oherwydd y cyfnod cyn yr etholiad yn arwain at etholiadau’r Senedd a gynhaliwyd ym mis Mai 2021. 

Cyhoeddwyd yr adroddiad interim ar yr adolygiad o fis Mawrth 2021 ar 31 Mawrth 2022. Mae'r adroddiad interim, sydd wedi'i ysgrifennu mewn fformat gan swyddogion Llywodraeth Cymru i Weinidogion, yn cyflwyno dau opsiwn i'w hystyried:

§    opsiwn 1. Datblygu newidiadau i'r Mesur yn y Rhaglen Ddeddfwriaethol nesaf fel y'i hamlinellir yng nghwmpas gwreiddiol yr adolygiad.

§    opsiwn 2. Datblygu rhaglen ehangach o waith sy'n cynnwys ystyrieddiwygiad llwyr o'r Mesur ynghyd â gwaith i;

o   gwella darpariaeth gweithredwyr a'r amgylchedd lle gellir darparu mwy o dan y Mesur; ac◦

o   ystyried gwell integreiddio â pholisïau cysylltiedig, megis anghenion disgyblion ADY a darpariaeth i sefydliadau Addysg Bellach.

Argymhellodd swyddogion opsiwn 2 ac awgrymwyd y gellid ei gyfuno â gwaith polisi arall ym maes trafnidiaeth gyhoeddus.

Mewn datganiad ysgrifenedig Cabinet (31 Mawrth 2022) dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai Llywodraeth Cymru’n cyflwyno rhaglen ehangach o waith eleni sy’n cynnwys ystyried adolygiad cyflawn o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Dywedodd hefyd:

Wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu'r sail dystiolaeth i gefnogi unrhyw newidiadau arfaethedig i sicrhau eu bod yn deg, yn gymesur ac yn fforddiadwy. Byddwn yn ymgynghori ar y gwaith hwn yn ddiweddarach eleni.

Mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig (12 Ebrill 2023), dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

An initial review of the Learner Travel (Wales) Measure took place in 2020/2021. From the initial review it was a clear that a more detailed review of the Measure was required due to the complex nature of learner’s travel needs.

Work has now commenced on this wider review of the Measure which, working in partnership with local authorities, the industry as well as children and young people, will identify the barriers as well as opportunities and innovative approaches to learner travel. Key findings, learnings and examples of innovative good practice from local, national and international research will inform advice due to be submitted for me to review this summer.  

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Yn 2017, bu Pwyllgor Deisebau y Bumed Senedd yn ystyried deiseb, Cludiant Ysgol Am Ddim i Holl Blant Cymru. Cafodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y pryd, a gofynnodd am farn y Deisebydd, ond ar ôl methu â chysylltu â’r deisebydd, caewyd y ddeiseb.

Trafodwyd deiseb bellach, Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun gan y Pwyllgor ar 25 Ebrill 2022. Yn sgil adolygiad Llywodraeth Cymru, cytunodd y Pwyllgor i barhau i gadw golwg ar y ddeiseb.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.